Charles Aznavour
Canwr, cyfansoddwr, actor, ymgyrchydd cymdeithasol a diplomydd Armenaidd-Ffrengig oedd Charles Aznavour, (ganed ''Shahnour Vaghenag Aznavourian'', 22 Mai 1924 – 1 Hydref 2018). Yn ogystal â bod yn un o gantorion mwyaf poblogaidd Ffrainc, roedd Aznavour yn enwog am ei lais tenor unigryw ac am ei daldra bychan. Ymddangosodd mewn dros 60 o ffilmiau, wedi cyfansoddi tua 1,000 o ganeuon (gan gynnwys o leiaf 150 yn Saesneg, 100 yn Eidaleg, 70 yn Sbaeneg a 50 yn Almaeneg). Gwerthodd ymhell dros 100 miliwn o recordiau. Ei llysenw oedd "y Sinatra Ffrengig".Fe'i ganwyd yn Saint-Germain-des-Prés, Paris, yn fab Michael Aznavourian a'i wraig Knar Baghdasarian, mewnfudwyr o Armenia.
Priododd Micheline Rugel (1946-1952; ysgarodd), Evelyn Plessis (1956-1960; ysgarodd) ac Ulla Thorsell (1967-2018). Darparwyd gan Wikipedia
-
1