Charles Evans Hughes
Gwladweinydd o'r Unol Daleithiau, cyfreithiwr, a gwleidydd Gweriniaethol oedd Charles Evans Hughes yr Hynaf (11 Ebrill 1862 – 27 Awst 1948). Roedd yn 36ain Lywodraethwr Efrog Newydd o 1907 hyd 1910, a Phrif Ustus yr Unol Daleithiau rhwng 1930 a 1941. Bu ond y dim iddo ddod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau; ar 7 Tachwedd 1916 roedd llawer o bapurau newydd yr UDA yn datgan mai ef fyddai'r Arlywydd, ond collodd o drwch blewyn i Woodrow Wilson.Cafodd ei eni ym 1862 ac roedd ei dad wedi mewnfudo o Gymru. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Madison, Prifysgol Brown, a Phrifysgol Columbia. Roedd yn siarad Cymraeg yn rhugl. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4Llyfrgan Dawes, Charles Gates, 1865Awduron Eraill: “...Hughes, Charles Evans, 1862-1948...”
Cyhoeddwyd 1939