Japan

| banergwlad = 170px | enw_brodorol = 日本国 neu 日本
''Nippon-koku'' | suppressfields= image1 | ynganiad = | map lleoliad = 270px }}

Mae Japan (Japaneg: 日本 ''Nihon; Nippon'' neu ''Nihon-koku''; hefyd yn Gymraeg, Siapan) yn wlad sy'n cynnwys 6,852 o ynysoedd yn nwyrain Asia; y 4 fwyaf yw Honshu, Hokkaido, Kyushu, a Shikoku. Fe'i hamgylchynnir gan y Cefnfor Tawel (''Taiheiyō''), Setonaikai a Môr Japan (''Nihonkai''). Gorwedda i'r de-ddwyrain o Rwsia, i'r dwyrain o Tsieina a Chorea ac i'r gogledd-ddwyrain o ynys Taiwan. Tokyo yw prifddinas y wlad, ac ymhlith y dinasoedd eraill mwyaf poblog y mae: Yokohama, Osaka, Nagoya, Sapporo, Fukuoka, Kobe, a Kyoto. Yn y Cyfrifiad diwethaf, roedd poblogaeth y wlad yn .

Yn 2021, Japan oedd yr 11fed wlad fwyaf poblog yn y byd, yn ogystal ag un o'r gwledydd mwyaf poblog a threfol. Mae tua 75% o dir y wlad yn fynyddig, ac mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y gwastadeddau arfordirol, cul. Rhennir Japan yn 47 o daleithiau gweinyddol ac wyth rhanbarth traddodiadol. Ardal Tokyo Fwyaf yw'r ardal fetropolitan fwyaf poblog yn y byd, gyda mwy na 37.4 miliwn o drigolion.

Mae pobl wedi byw yn Japan ers y cyfnod Paleolithig Uchaf (neu Hen Oes y Cerrig Uchaf, sef tua 30,000 CC), er bod y sôn ysgrifenedig cyntaf am yr archipelago yn ymddangos mewn cronicl Tsieineaidd a orffennwyd yn yr 2g OC. Gellir cymharu hyn gydag Ogof Bontnewydd, Llanelwy, lle cafwyd hyd i ddant dynol sy'n mynd nôl tua 225,000 o flynyddoedd. Rhwng y 4g a'r 9g, daeth unwyd teyrnasoedd Japan o dan un ymerawdwr a'r llys ymerodrol wedi'i leoli yn Heian-kyō. Gan ddechrau yn y 12g, daliwyd y pŵer gwleidyddol gan gyfres o unbeniaid milwrol (''shōgun'') ac arglwyddi ffiwdal (''daimyō''), drwy ddosbarth o uchelwyr rhyfelgar (''samurai)''. Ar ôl cyfnod o ganrif o ryfel cartref, adunwyd y wlad ym 1603 o dan Tokugawa shogun, a ddeddfodd bolisi tramor ynysig. Ym 1854, gorfododd fflyd o logau milwrol a masnach o’r Unol Daleithiau Japan i fasnachu gyda'r Gorllewin, a arweiniodd at ddiwedd y shogunate ac adfer pŵer ymerodrol (Adferiad y Meiji) ym 1868. Yn y cyfnod Meiji, mabwysiadodd Ymerodraeth Japan gyfansoddiad wedi'i fodelu ar y Gorllewin a dilyn rhaglen a oedd yn datblygu diwydiant a moderneiddio. Yn 1937, goresgynnodd Japan Tsieina; ym 1941, aeth i'r Ail Ryfel Byd fel un o bartneriaid yr Almaen. Fe'i trechwyd yn Rhyfel y Môr Tawel a dau fomiad atomig Hiroshima a Nagasaki. Iildiodd Japan ym 1945 a daeth o dan feddiannaeth y Cynghreiriaid am gyfnod o saith mlynedd, pan fabwysiadodd gyfansoddiad newydd. O dan gyfansoddiad 1947, mae Japan wedi cynnal brenhiniaeth seneddol seneddol unedol gyda deddfwrfa ddwyochrog, y Ddau Dŷ, neu'r 'Diet' Cenedlaethol .

Mae Japan yn bwer mawr ac yn aelod o nifer o sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig (ers 1956), yr OECD, a'r Grŵp o Saith. Er ei bod wedi ymwrthod â’i hawl i gyhoeddi rhyfel, mae’r wlad yn cynnal Lluoedd Hunan-Amddiffyn a gaiff ei hystyried fel un o fyddinoedd cryfaf y byd. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, profodd Japan y twf mwyaf erioed yn economaidd, gan ddod yr economi ail-fwyaf yn y byd erbyn 1990. O 2021 ymlaen, economi'r wlad yw'r drydedd-fwyaf yn ôl CMC enwol a'r bedwaredd-fwyaf gan PPP. Caiff y wlad ei hystyried yn arweinydd byd-eang yn y diwydiannau modurol ac electroneg, ac wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i wyddoniaeth a thechnoleg. Yn "uchel iawn" ar y Mynegai Datblygiad Dynol, yma, ceir un o ddisgwyliadau oes ucha'r byd, er fod yma ostyngiad yn y boblogaeth. Mae diwylliant Japan yn adnabyddus ledled y byd, gan gynnwys ei chelf, bwyd, cerddoriaeth, a'i diwylliant poblogaidd, sy'n cwmpasu diwydiannau comig, animeiddio a gemau fideo amlwg. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 525 ar gyfer chwilio 'Japan', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
    Llyfr
    gan Fujii, Shinʼichi, 1892-
    Cyhoeddwyd 1940
    “...Japan...”
  3. 3
    Llyfr
    gan Ayusawa, Iwao Frederick, 1894-
    Cyhoeddwyd 1962
    “...Japan...”
  4. 4
    Llyfr
    gan Takeuchi, Tatsuji, 1904-
    Cyhoeddwyd 1967
    “...Japan...”
  5. 5
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1964
    “...Japan...”
  6. 6
    Cyfresol
    Cyhoeddwyd 1926
    “...Chuo Kishodai (Japan)...”
  7. 7
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1990
    “...Japan...”
  8. 8
    Llyfr
    “...Australia-Japan Economic Institute...”
  9. 9
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1993
    “...Japan. Rōdōshō...”
  10. 10
    Cylchgrawn
    “...Chishitsu Chosajo (Japan)...”
  11. 11
    Cyfresol
    “...Japan. Ōkurashō...”
  12. 12
    Cyfresol
    Cyhoeddwyd 1901
    “...Japan. Ōkurashō...”
  13. 13
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1978
    “...Japan. Sorifu...”
  14. 14
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1960
    “...Japan. Kensetsushō...”
  15. 15
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1972
    “...Tokyo (Japan)...”
  16. 16
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1968
    “...Japan. Gaimushō...”
  17. 17
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1959
    “...Japan. Monbusho...”
  18. 18
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1976
    “...Japan. Gaimushō...”
  19. 19
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1981
    “...Tokyo (Japan)...”
  20. 20
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1979
    “...Japan. Gaimusho...”