Martin Johnes

Hanesydd o Gymro yw Martin Johnes sydd yn arbenigo mewn hanes chwaraeon ac hanes modern Cymru. Mae'n dal swydd Athro Hanes Modern ym Mhrifysgol Abertawe.

Cafodd ei fagu yng ngogledd Sir Benfro. Derbyniodd ei radd baglor a'i ddoethuriaeth o Brifysgol Caerdydd. Yn 1998–2000 gweithiodd yn swyddog ymchwil, dan gyfarwyddiaeth yr Athro Iain McLean, ar brosiect i ymchwilio i ymateb llywodraeth y Deyrnas Unedig i drychineb Aberfan. Yn 2002 enillodd Wobr Lenyddol yr Arglwydd Aberdâr, o Gymdeithas Brydeinig Hanes Chwaraeon, am ei lyfr ''Soccer and Society''. Gweithiodd yn ddarlithydd yng Ngholeg St Martin (bellach Prifysgol Cumbria) cyn iddo ymuno â chyfadran hanes Prifysgol Abertawe yn 2006. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Johnes, Martin', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr
    gan Johnes, Martin
    Cyhoeddwyd 2002