Marc
Sant Marc (Hebraeg: מרקוס; Groeg: Μάρκος; fl. yn y ganrif 1af OC) yw awdur tybiedig ''Yr Efengyl yn ôl Marc''. Roedd yn gyfaill i Sant Pedr ac yn gydymaith i Paul yr Apostol a Barnabas ar daith genhadol gyntaf Paul.Dethlir Gŵyl Sant Marc ar 25 Ebrill, y dyddiad y'i lladdwyd. Yn ôl traddodiad yn yr Eglwys Goptaidd sylfaenodd Marc yr eglwys yn Alecsandria, ac felly ef yw sylfaenydd Cristnogaeth yn yr Affrig. Roedd yn dwyn y teitl Esgob Alecsandria ac felly yn ragflaenydd i Babau Alecsandria, y penaethiad ar yr Eglwys Goptaidd yn yr Aifft. Ei symbol yw y llew.
Enwir nifer o eglwysi ar ôl Sant Marc; un o'r enwocaf yw Basilica San Marco, eglwys gadeiriol Fenis yn yr Eidal.
Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20